Stori Cwrt Insole

Mae stori’r teulu Insole yn adlewyrchu ffyniant a dirywiad Caerdydd yn ystod y cyfnod Fictoraidd ac Edwardaidd. Roedd y teulu Insole yn berchen ar byllau glo ac yn arloeswyr o ran cludo glo, y rheilffyrdd a’r dociau yn ystod y tair cenhedlaeth pan oedd glo rhydd Cymru yn cynnal diwydiannau ledled y byd. Daeth anterth ffyniant y teulu ar ddiwedd y 19eg ganrif ar ôl caffael erwau sylweddol o dir, gyda’r cartref teuluol wrth ei galon, yn Llandaf, ar gyrion Caerdydd.

Information

Teithiau Tywys

If you would like to learn more about the history of Insole Court, why not visit and take a tour with our expert guide.

Teithiau Tywys

Our Address

Insole Court
Fairwater Road
Llandaff
Cardiff
CF5 2LN

James Harvey

Dechreuodd James Harvey Insole adeiladu cartref teuluol ffrynt dwbl dirodres yn Llandaf ym 1856. Erbyn y 1870au, roedd modd iddo roi’r gorau i fyd busnes a chanolbwyntio ar weithgareddau gŵr bonheddig. Estynnodd ei dŷ yn arddull yr adfywiad gothig, gyda’r bwriad o efelychu gwaith William Burges ar gyfer Ardalydd Bute yng Nghastell Caerdydd. Yn y 1880au, sicrhaodd nodwedd eithaf boneddigeiddio wrth iddo droi’r tir amaethyddol o amgylch ei erddi yn barc addurnol cain.

George Fredrick

Rhwng 1905-09, ar anterth ffyniant yr oes Edwardaidd, aeth mab James, George Frederick, ati i ddyblu maint y tŷ unwaith eto, ond ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, dirywiodd cyfoeth y teulu wrth i lo De Cymru golli ei boblogrwydd. Ym 1932, prynwyd yr ystâd gan Gorfforaeth Caerdydd er mwyn creu lle i system ffyrdd gylchdroadol Caerdydd (Rhodfa’r Gorllewin); gwerthwyd y parc addurniadol er mwyn codi tai, ac mae’r enwau Insole ar y strydoedd hynny yn dal yn amlwg hyd heddiw. Gadawodd yr aelod olaf o’r teulu ym 1938. Gadawodd yr aelod olaf o’r teulu ym 1938.

Ail Rhyfel Byd

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, bu Cwrt Insole yn bencadlys i’r ARP (y gwasanaeth diogelu rhag cyrchoedd awyr), a bu hefyd yn lletya Corfflu Brenhinol y Gwylwyr a’r Gwasanaeth Tân Cynorthwyol. Ers y rhyfel, mae adeiladau Cwrt Insole wedi lletya’r heddlu trafnidiaeth, wedi gweithredu fel swyddfeydd cyngor a fflatiau hunangynhwysol ar gyfer gweithwyr awdurdodau lleol, yn ogystal â lletya dosbarthiadau addysg a llyfrgell gyhoeddus. Dros y blynyddoedd, daeth Cwrt Insole yn ganolfan gymunedol boblogaidd.

Cyfeillion Insole

Ym 1988, mewn ymateb i fygythiad Cyngor Dinas Caerdydd i werthu’r tŷ, ffurfiodd pobl leol grŵp gweithredu i geisio cadw Cwrt Insole fel ased cyhoeddus. Yn sgil eu llwyddiant, ym 1993 newidiwyd yr enw i Gyfeillion Cwrt Insole, gyda’r nod o warchod a datblygu ei ddefnydd cymunedol. Dadfeiliodd y tŷ ac fe’i caewyd ar sail iechyd a diogelwch ym mis Tachwedd 2006. Yn sgil eu llwyddiant, ym 1993 newidiwyd yr enw i Gyfeillion Cwrt Insole, gyda’r nod o warchod a datblygu ei ddefnydd cymunedol.

Ymddiriedolaeth Cwrt Insole

Yn 2010, ar ôl dau ddegawd o ymgyrchu, rhoddodd Cyngor Caerdydd wahoddiad i’r Cyfeillion ffurfio Ymddiriedolaeth Cwrt Insole er mwyn gallu trosglwyddo’r ased cymunedol i hwyluso adnewyddiad yr adeiladau fel ased treftadaeth a chanolfan gymunedol. Byddai’r cyfrifoldeb am ei reoli yn nwylo’r Ymddiriedolaeth. Daeth y broses i fwcl yn 2016 diolch i arian Loteri a chyllid arall, a dechreuodd cyfnod newydd sbon yn hanes yr enghraifft anghyffredin a phrin hon o oroesi trefol.

ymunwch â ni

Bydd eich cefnogaeth yn ein helpu i warchod Insole Court a sicrhau ei dyfodol fel lle i holl bobl Caerdydd. Felly, ymunwch â ni heddiw.

Mwy o wybodaeth

Digwyddiadau Diweddaraf

View all
View all