Cynnyrch Cartref a Chynnyrch Lleol

gyda chrefftau a chynnyrch o’r ardal, llawer wedi’u gwneud â llaw yn lleol, mae ein siop anrhegion yn boblogaidd ymhlith ymwelwyr â Chwrt Insole yn ogystal â phobl leol sy’n chwilio am anrhegion gwreiddiol o ansawdd. Rydym yn falch o stoc:

  • Joe’s Ice Cream
  • Draenog
  • Museums and Galleries
  • Carrie Elspeth
  • Vision 21
  • Hammond Gower
  • Shnwcs
  • Beti Poppit
  • Flowers I Do
  • Happy Hive
  • Red Kite Candles
  • Mwnci

Mae ein siop anrhegion yn cael ei staffio gan Wirfoddolwyr sy’n gallu darparu gwybodaeth am gyrsiau, dosbarthiadau a digwyddiadau yn Cwrt Insole, a gall hefyd helpu gydag ymholiadau archebu a thaliadau llogi ystafelloedd.

Information

Opening Times

Gift Shop 10am-4pm

Bookshop 10am-4pm

Local Producers

If you’re interested in adding your stock to our shop on a sale or return basis please contact us directly.

Telephone: 029 21 167920
Email: [email protected]

ymunwch â ni

Bydd eich cefnogaeth yn ein helpu i warchod Insole Court a sicrhau ei dyfodol fel lle i holl bobl Caerdydd. Felly, ymunwch â ni heddiw.

Mwy o wybodaeth

Digwyddiadau Diweddaraf

View all
View all

Cwestiynau Cyffredin

Os nad oes ateb i’ch cwestiwn isod, anfonwch e-bost at [email protected]

Beicio

mae rheseli beiciau ar gael ym mynedfa ddeheuol caffi’r Potting Shed ac yn y plasty o flaen Adain y Swistir

Trafnidiaeth Gyhoeddus

Ar fws – y bysiau agosaf sy’n rhedeg rhwng canol dinas Caerdydd a Chwrt Insole yw:
66 (Bws Caerdydd) – dewch oddi ar y bws ar Heol y Tyllgoed ger Rookwood Close, a cherddwch yn ôl 150m i Borth y Gogledd.
25, 62 neu 63 (Bws Caerdydd) a 122 neu 124 (Stagecoach) – mae’r safle bws 550m o Borth y Gogledd ar Heol y Tyllgoed. Dewch oddi ar y bws ger y Llew Du yn Llandaf, cerddwch i fyny’r rhiw at y goleuadau traffig, trowch i’r chwith i Heol y Tyllgoed, a dilynwch yr arwyddion brown.

Mae Cwrt Insole tua 25 munud ar fws o ganol dinas Caerdydd.
Gallwch gynllunio eich taith bws neu drên gan ddefnyddio gwefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0300 200 22 33.

Ar drên -yr orsaf agosaf yw gorsaf y Tyllgoed. Mae Cwrt Insole 500m o allanfa Heol y Tyllgoed. Mae’r gwasanaethau yn cael eu rhedeg gan Trafnidiaeth Cymru ar y llinell sy’n rhedeg trwy ganol y ddinas rhwng Coryton a Radur

Bwyta

Mae caffi’r Potting Shed ar agor o 9-5 bob dydd ac mae’n gweini detholiad o brydau tymhorol o darddiad lleol yn ogystal â choffi, cacennau a danteithion o bob math. Mae meinciau picnic ar dir y plasty i chi fwyta’ch archebion bwyta allan yn ystod cyfnodau prysur.

Cerddwyr cŵn

mae croeso i gerddwyr cŵn ar draws y safle. Mae powlen ddŵr ar gael wrth y siop anrhegion, ac mae danteithion blasus i gŵn ar werth yno ac yn y plasty. Gofynnwn yn garedig i gŵn gael eu cadw ar dennyn cymaint â phosibl, ond yn enwedig ar y ffordd ogleddol ac yn y maes parcio er diogelwch.

Parcio

mae maes parcio pwrpasol ar y safle ar sail y cyntaf i’r felin. Mae parcio am ddim, ond rydyn ni’n awgrymu cyfraniad o £3 i’r rhai sy’n gallu fforddio talu hynny. Mae cyfraniadau yn cael eu derbyn yn y siop anrhegion neu yng nghyntedd y plasty. Pan fydd y maes parcio yn llawn, gofynnwn i bobl ymatal rhag parcio mewn mannau heb eu dynodi ond yn hytrach i barcio oddi ar y safle ar y strydoedd cyfagos. Cofiwch barchu trigolion lleol wrth chwilio am le i barcio.

Hygyrchedd

mae toiledau hygyrch i bobl anabl ar gael yn yr iard stablau a’r plasty. Lawrlwythwch fap o’r dudalen ‘Ymweld’ i weld llwybrau hygyrch yn y gerddi. Caniateir cŵn cymorth ym mhob adeilad. Mae parcio i bobl anabl ar gael i’r gogledd o’r siop anrhegion yn ein maes parcio.

Cyfleusterau newid

mae cyfleusterau newid babanod ar gael yn y plasty ac mewn dau leoliad yn yr iard stablau.

Wi-Fi

mae codau Wi-Fi undydd ar gael o gaffi’r Potting Shed a’r siop anrhegion. Ymunwch â’r rhwydwaith ‘Insole Court Free Wi-Fi’ a mewnbynnwch eich cod.