Casgliad Cwrt Insole
Mae gan Gwrt Insole gasgliad penodol o wrthrychau a dogfennau sy’n gysylltiedig â hanes Cwrt Insole a’r bywydau sydd wedi’u cydblethu ag ef. Rheolir ein casgliadau gan dîm bach o ymchwilwyr gwirfoddol a’u rôl yw catalogio a gwarchod y casgliadau, gwella a mireinio ein systemau archifo, a hwyluso mynediad at y daliadau, gyda llawer ohonynt wedi’u lleoli yn ein hystafell archif bwrpasol. Mae ymwelwyr amrywiol sy’n ymddiddori yn hanes Cwrt Insole yn galw, o ymchwilwyr i artistiaid i aelodau o’r cyhoedd sydd ag atgofion melys o’r plasty yn eu gorffennol eu hunain. Mae’r casgliadau’n cynnal perthynas symbiotig gyda’n hymchwilwyr. Yn ogystal â’r prif gasgliad, mae yna gasgliad cyfeirio sy’n cynnwys dogfennau a gasglwyd ynghyd gan yr ymchwilwyr yn ystod eu gwaith. Mae ymchwilwyr hefyd yn defnyddio ein hystafell archif bwrpasol i ddatblygu eu hastudiaethau. Mae’r grŵp yn cyfarfod yn rheolaidd yma i rannu darganfyddiadau newydd sy’n eu tywys ar hyd llwybrau archwilio i’r dyfodol.
Mae ein casgliad yn cynnwys:
- mapiau
- cynlluniau
- ffotograffau a ffilmiau
- ffeiliau digidol
- recordiadau sain
- cofnodion
- llythyrau
- cylchlythyrau
- toriadau papur newydd
- cardiau post
Information
Contact Us
If you have an item you would like us to assess please email [email protected]
Visit Us
You are most welcome to visit the Insole Court Collection, but please note that appointments are essential.
Please contact us in advance at [email protected] with as much detail as possible about your area of interest so that we may forward your enquiry to the appropriate member of the team.
ymunwch â ni
Bydd eich cefnogaeth yn ein helpu i warchod Insole Court a sicrhau ei dyfodol fel lle i holl bobl Caerdydd. Felly, ymunwch â ni heddiw.
Mwy o wybodaethAmrywiaeth, Cydraddoldeb a Chynhwysiant
Mae cydraddoldeb, amrywiaeth a hygyrchedd yn werthoedd sylfaenol i Ymddiriedolaeth Cwrt Insole.
Rydyn ni’n deall y gall rhwystrau sylweddol fodoli wrth gyrchu treftadaeth a diwylliant ac rydyn ni’n cymryd camau i sicrhau nad oes sefyllfa o’r fath yn codi yma yng Nghwrt Insole. Byddwn yn adlewyrchu hyn yn ein cynllunio busnes, cyfathrebu, ein gwaith allgymorth ac ymgysylltu, a’n gweithgareddau.
Mae Ymddiriedolaeth Cwrt Insole a’r is-gwmni, Insole Court Trading, yn gyflogwyr cyfle cyfartal, a byddwn yn ymdrechu i ddenu ymgeiswyr amrywiol ar bob lefel o’r sefydliad gan gynnwys staff, gwirfoddolwyr ac ymddiriedolwyr.
Bydd ymgeiswyr cymwys yn cael eu trin heb ystyried lliw, crefydd, rhywedd, hunaniaeth rhywedd na mynegiant, cyfeiriadedd rhywiol, tarddiad cenedlaethol, anabledd neu oedran.
Mae ein gwaith yn cael ei lywio gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 sy’n darparu’r fframwaith deddfwriaethol i gyflawni ein nodau o hyrwyddo cyfle cyfartal ac ymgysylltu â’n hymwelwyr.