Dewch yn aelod o’r Ymddiriedolaeth am ddim ond £2.50 y mis

Mae Cwrt Insole yn un o drysorau cudd Caerdydd. Ar ôl blynyddoedd dan fygythiad, mae wedi cael ei achub ac mae bellach yn nwylo diogel Ymddiriedolaeth Cwrt Insole. Helpwch ni i barhau i wneud Cwrt Insole yn lle i bawb ei fwynhau. Diolch i’r gwaith adfer parhaus, mae yna fywyd o’r newydd yn yr adeilad. Mae Cwrt Insole bellach ar agor bob dydd, yn swyno ymwelwyr ac yn cynnal digwyddiadau cymunedol. Fodd bynnag, mae mwy o waith i’w wneud, ac mae angen eich cefnogaeth yn fwy nag erioed. Bydd hynny’n ein helpu i warchod Cwrt Insole a sicrhau ei ddyfodol fel lle i holl bobl Caerdydd. Ymunwch â ni heddiw. Ymunwch nawr, ac fel arwydd o ddiolch, byddwch yn derbyn:

  • Gostyngiad o 10% yng nghaffi’r Potting Shed
  • Gostyngiad o 10% yn ein siop
  • Mynediad am ddim i arddangosfa Cwrt Insole, ‘Mae’r Tŷ Hwn yn Llwyfan’
  • Gwahoddiad i’n cyfarfod cyffredinol blynyddol
  • Gwahoddiadau arbennig ar gyfer digwyddiadau i ddod

Dim ond £2.50 y mis yw cost ymaelodi i oedolyn, neu £30 y flwyddyn
Mae aelodaeth ratach ar gyfer pobl dros 60 oed, myfyrwyr neu’r digyflog, sef £2.00 y mis neu £24 y flwyddyn
Dewch yn aelod heddiw

Information

Opening Information

Weekdays – 9am to 6pm
Weekends – 9am to 5pm
School Holidays – 8.30am to 5.30pm

Sat Nav Address

Insole Court
Fairwater Road,
Llandaff, Cardiff
CF5 2LN

Contact Details

Telephone: 029 21 167920
Email: [email protected]

Aelodaeth Cwrt Insole

Gall ein Noddwyr roi mwy, ac mae eu cyfraniad yn hanfodol i’n helpu i gynllunio ar gyfer y dyfodol. Am bob person sy’n gallu ein cefnogi gyda £20 y mis, bydd Cwrt Insole yn elwa’n uniongyrchol — o waith cadwraeth parhaus i brosiectau addysg ac allgymorth newydd. Byddwch hefyd yn derbyn yr holl fuddion arbennig sydd ar gael i’n Haelodau.

ymunwch â ni

Noddwyr Cwrt Insole

Gall ein Noddwyr roi mwy, ac mae eu cyfraniad yn hanfodol i’n helpu i gynllunio ar gyfer y dyfodol. Am bob person sy’n gallu ein cefnogi gyda £20 y mis, bydd Cwrt Insole yn elwa’n uniongyrchol — o waith cadwraeth parhaus i brosiectau addysg ac allgymorth newydd. Byddwch hefyd yn derbyn yr holl fuddion arbennig sydd ar gael i’n Haelodau.

Dod yn Noddwr

Cyfrannu

Gallwch gyfrannu rhodd unigol neu drefnu rhoddion rheolaidd. Mae’n syml i’w wneud a bydd yn helpu’r elusen i dalu costau na ellir eu hosgoi. Mae pob rhodd sy’n dod i law yn rhoi hwb i’n gobeithion i gadw Cwrt Insole ar agor am flynyddoedd i ddod.

Cyfrannu Ar-lein

Digwyddiadau Aelodau Diweddaraf

View all
View all