Mae adferiad Cwrt Insole yn benllanw ar ddeg mlynedd ar hugain o ymgyrchu cymunedol.
Ar ôl degawdau o ansicrwydd, mae’r plasty a’i adeiladau allanol a oedd ar un adeg yn ddiffaith, bellach ar agor i’r cyhoedd ac wedi dod yn bwysig i dirlun diwylliannol Caerdydd.
Ers i’r safle ail agor yn 2016, mae Cwrt Insole wedi croesawu miloedd o ymwelwyr o bob rhan o’r ddinas a thu hwnt.
Mae digwyddiadau cyhoeddus, megis cyngherddau, dangosiadau ffilm, diwrnodau marchnad a theithiau treftadaeth wedi creu’r plasty a’i erddi’n atyniad i dwristiaid yn ogystal â dinasyddion Caerdydd.
Mae’r cyfleusterau llogi ystafelloedd eithriadol yn cynnig cyfleusterau’r unfed ganrif ar hugain i gwsmeriaid corfforaethol a chymunedol mewn lleoliad Fictoraidd unigryw.
Yn 2018 agorwyd arddangosfa barhaol newydd i ymwelwyr ar y llawr cyntaf. “Mae’r Tŷ Hwn yn Llwyfan” yn daith sain – drochi, lle mae straeon ystafelloedd oedd wedi eu gadael, yn dod yn fyw eto drwy dechnoleg, wrth adrodd hanes y teulu, eu buddugoliaethau a’u trychinebau.
Boed yn ymweld â’r plasty trawiadol, crwydro ei erddi arddurniedig, neu’n galw mewn i’r caffi swynol, mae Cwrt Insole wedi dod yn atyniad rhaid gweld. Mae’n eiddo cymunedol gwerthfawr ac yn enghraifft ddisglair o adfywio a arweinir gan dreftadaeth.