
Pwy yr Ydym
Rheolir ein casgliadau gan dîm bychan o ymchwilwyr sy'n gyfrifol am gatalogio a diogelu'r casgliadau, gwella a mireinio ein systemau archifo, a hwyluso mynediad i'r daliadau, y mae llawer ohonynt wedi'u lleoli yn ein hystafell archif bwrpasol. Mae amrywiaeth o ymwelwyr gyda ni sydd â diddordeb, yn amrywio o ymchwilwyr i artistiaid i aelodau o'r cyhoedd sydd ag atgofion melys o Cwrt Insole o'u gorffennol eu hunain.
Mae'r casgliadau yn cynnal perthynas symbiotig gyda'n hymchwilwyr. Yn ogystal â'n prif gasgliad mae casgliad cyfeirio gyda ni sy'n cynnwys dogfennau a gasglwyd gan yr ymchwilwyr yn ystod eu hymchwiliadau. Mae ymchwilwyr hefyd yn mwynhau defnyddio ein hystafell archif bwrpasol i ehangu eu hastudiaethau. Mae'r grŵp yn cyfarfod yma'n rheolaidd i rannu eu darganfyddiadau newydd gan arwain at ddulliau arholi yn y dyfodol.
Gyda chefnogaeth hael yr Ymddiriedolaeth a chyfeillion Cwrt Insole rydym wedi gallu dechrau ar ein taith o gadwraeth a threfniadaeth, ond mae ffordd hir gyda ni o'n blaenau. Rydym yn dibynnu ar gyllid gan aelodau'r cyhoedd a sefydliadau o'r un anian. Gwerthfawrogir unrhyw gymorth yn fawr iawn.
Beth sydd gyda ni
Mae Cwrt Insole wedi mynd drwy lawer o adfywiadau ers i'r gwaith adeiladu ddechrau arno yn 1855, ac rydym yn meddu ar ddeunydd helaeth yn ymwneud â'r gorchymyn prynu gorfodol yn 1932 a datblygiad dilynol Cwrt Insole o dan berchnogaeth y Cyngor. Mae casgliad mawr gyda ni hefyd yn dogfennu'r frwydr i achub Cwrt Insole a'i ddychwelyd i'r gymuned.
Mae ein casgliad yn cynnwys:
• mapiau
• cynlluniau
• ffotograffau a ffilmiau
• ffeiliau digidol
• recordiadau sain
• cofnodion
• llythyrau
• cylchlythyrau
• eitemau papur newydd
• cardiau post
Am unrhyw ymholiadau am ein hymchwil neu ddaliadau, cysylltwch â ni yn yr e-bost isod. Wrth gwrs, os oes gyda chi unrhyw wybodaeth neu atgofion am Gwrt Insole, neu os hoffech gefnogi ein gwaith, cysylltwch â ni yn [email protected].
Ymweld â'r casgliad
Mae croeso i chi ymweld â chasgliad Cwrt Insole, ond cofiwch fod apwyntiadau yn hanfodol. Cysylltwch â ni ymlaen llaw yn [email protected] gyda chymaint o fanylion â phosibl o'ch maes diddordeb fel y gallwn anfon eich ymholiad ymlaen at yr aelod priodol o'r tîm. Byddwn wedyn yn gallu eich helpu i ddarganfod a oes unrhyw beth gyda ni a allai fod o ddefnydd i chi a pharatoi unrhyw ddeunyddiau o'r fath ymlaen llaw.
Oriau agor
Mae plasty Cwrt Insole ar agor rhwng 10yb a 4yp bob dydd. Mae ein tîm casgliadau yn hapus i gwrdd â chi o fewn yr oriau hyn ar drefniant ymlaen llaw. Er mwyn cysylltu â ni, anfonwch e-bost at [email protected]. Byddem wrth ein boddau yn clywed gennych.
Dod o hyd i'r archif
Rydym yn gweithio yn y plasty. Pan gyrhaeddwch, bydd y staff a'r gwirfoddolwyr yn gallu eich cynorthwyo.
Rhoddion
Mae casgliad Cwrt Insole yn cael ei redeg yn bennaf drwy waith caled gwirfoddolwyr. Rydym yn dibynnu'n helaeth ar haelioni unigolion a sefydliadau o'r un anian sydd â diddordeb. Os hoffech wneud rhodd i'n helpu i barhau â'n gwaith o gadw a gofalu am hanes Insole Court ac i'n helpu i wneud y casgliad hyd yn oed yn fwy hygyrch i ymwelwyr ac ymchwilwyr fel ei gilydd, cysylltwch â ni yn [email protected].