• Membership Banner

Cefnogwch Ni

AELODAETH

Dewch i fod yn Aelod o Ymddiriedolaeth Cwrt Insole am ddim ond £2.50 y mis

Mae Cwrt Insole yn un o drysorau cudd Caerdydd. Ar ôl blynyddoedd dan fygythiad mae wedi cael ei achub ac mae bellach yn ddiogel yng ngofal Ymddiriedolaeth Cwrt Insole. Helpwch ni i barhau i wneud Insole Court yn lle i bawb ei fwynhau.

Mae ein gwaith adfer parhaus yn dod â'r adeilad yn ôl yn fyw. Mae Cwrt Insole bellach ar agor bob dydd, yn difyrru ymwelwyr ac yn cynnal digwyddiadau cymunedol. Fodd bynnag, mae mwy o waith i'w wneud, ac mae arnom angen eich cefnogaeth yn fwy nag erioed.

Bydd eich cefnogaeth yn ein helpu i warchod Insole Court a sicrhau ei dyfodol fel lle i holl bobl Caerdydd. Felly, ymunwch â ni heddiw.

Aelodaeth Cwrt Insole

Ymunwch nawr, ac fel ein ffordd o ddweud ' Diolch ' byddwch yn mwynhau:

• gostyngiad o 10% yn y Potting Shed Cafe • gostyngiad o 10% yn ein siop • mynediad am ddim i arddangosfa Cwrt Insole, ' Mae'r tŷ hwn yn llwyfan ' • gwahoddiad i'n cyfarfod cyffredinol blynyddol

A chi fydd y cyntaf i dderbyn gwahoddiadau arbennig a chlywed am ddigwyddiadau sydd ar y gweill

Costau aelodaeth oedolion yn unig £2.50 y mis neu dim ond £30 y flwyddyn.

Aelodaeth consesiynol ar gyfer rhai dros 60 oed, myfyrwyr neu bobl ddiwaith, dim ond £2.00 y mis neu £24 y flwyddyn

DEWCH I FOD YN AELOD



Noddwyr Cwrt Insole

Mae ein noddwyr yn gallu rhoi mwy, ac mae eu cyfraniad yn hanfodol wrth ein helpu i gynllunio ar gyfer y dyfodol. Ar gyfer pob person a all ein cefnogi gyda £20 y mis, bydd Cwrt Insole yn elwa'n uniongyrchol — popeth o gadwraeth barhaus i brosiectau addysg ac allgymorth newydd. Byddwch hefyd yn derbyn yr holl fuddion unigryw sydd ar gael i'n haelodau.

DEWCH I FOD YN NODDWR



Gwneud Rhodd Ar-lein

Gallwch wneud rhodd untro neu drefnu rhodd reolaidd. Mae'n hawdd ei wneud a bydd yn helpu'r elusen i dalu costau anochel. Mae pob rhodd a dderbyniwn yn cynyddu'r siawns y byddai Cwrt Insole yn aros ar agor am flynyddoedd i ddod.

GWNEUD RHODD


Ar ran ein Hymddiriedolwyr a thîm cyfan Cwrt Insole, diolch.

Am fwy o wybodaeth ebostiwch [email protected]


Dychwelyd i’r top ↑

Eich manylion am fwy

Peidiwch colli dim byd – rhowch eich manylion  i dderbyn ein Cylchlythyr a chadw i fyny gyda'r holl newyddion diweddara, digwyddiadau, gweithgareddau a mwy.

* ofynnol

Menu