Gwirfoddoli




















Mae yna lawer o gyfleoedd cyffrous ar gael i wirfoddolwyr eu profi.

Derbynfa
Boed yn wythnosol neu bob pythefnos o 10 y.b – 1 y.h. neu 1 y.h. - 4 y.h.
Dyma’r man cyswllt i ymwelwyr Cwrt Insole. Yn y dderbynfa byddwch yn ateb y ffôn, cyfarwyddo'r ymwelwyr i rannau priodol y safle a dangos yr ystafelloedd sydd ar gael i'w llogi yn ogystal â gwerthu nwyddau yn y siop.

Y Plasdy
Boed yn wythnosol neu pob pythefnos o 10 y.b. - 1 y.h. neu 1 y.h. - 4 y.h.
Yma byddwch yn croesawu ymwelwyr i'r tŷ gan ddangos a sôn am yr ystafelloedd prydferth ac hyrwyddo'r arddangosfa “Mae’r Tŷ Hwn yn Llwyfan”'. Bydd hyfforddiant ar gael i wirfoddolwyr sy'n barod i arwain ymwelwyr o gwmpas y tŷ.

Yr Ardd
Sesiwn taro heibio Dydd Mercher, 10am-1pm
Er mwyn cadw safon uchel yn yr ardd 'rydym yn gweithio yn agos gyda Chyngor Caerdydd. Mae'r Swyddog Safle yn cydlynnu'r gwirfoddolwyr i weithio ar gynlluniau fel bo'r angen.

Achlysur un tro/Digwyddiadau/Priodasau
Os ydych yn gallu gwirfoddoli yn achlysurol yn unig, mae gennym restr o wirfoddolwyr sy'n helpu o bryd i'w gilydd.

Wrth wneud cais i wirfoddoli yng Ngwrt Insole byddwch yn rhannu ein hangerdd am ei dreftadaeth, yr ardal gymdeithasol a'r gerddi.
Gobeithiwn y byddwch yn teimlo balchder o fod yn rhan o dîm brwdfrydig ac hefyd gobeithiwn y byddwch yn gwneud cyfeillion cadarn ymysg y gwirfoddolwyr a'r staff.

Cewch hefyd fudd o'r canlynol

  • Digwyddiadau cymdeithasol a rhagolwg o weithgareddau a ddaw yn y dyfodol.
  • Gostyngiad yn y siop
  • Cynllun gwobrwyo/anrhegion
  • Profiad gwaith os yw'n addas
  • Adborth i gynlluniau tebyg i Dug Caeredin, Bagaloriaeth Cymru a.y.y.b.

Os dymunwch helpu naill ai yn rheolaidd neu bob hyn a hyn byddwn yn hapus o glywed gennych. Dewch i ymweld â ni, codwch y ffôn 02921167920 neu yrrwch ebost at [email protected]

Dychwelyd i’r top ↑

Eich manylion am fwy

Peidiwch colli dim byd – rhowch eich manylion  i dderbyn ein Cylchlythyr a chadw i fyny gyda'r holl newyddion diweddara, digwyddiadau, gweithgareddau a mwy.

* ofynnol

Menu