Yn 1988, ffurfiwyd Grŵp Gweithredu Cwrt Insole fel ymateb i'r pryder bod Cyngor Dinas Caerdydd ar fin cael gwared ar yr hyn a ystyrir yn lleol fel ased cymunedol hanfodol.
Yn 1993 ailgyfansoddwyd ni fel Cyfeillion Cwrt Insole (The Friends of Insole Court) (a ailenwyd yn Cyfeillion Cwrt Insole (Insole Court Friends) yn 2015).
Am 3 degawd, dyn ni wedi ymgyrchu'n llwyddiannus i gadw'r Cwrt fel ased ar gyfer Caerdydd gyfan ac fel prif gyfleuster cymunedol lleol Llandaf.
Ein hamcanion ydy:
• Cydweithio gyda phob mudiad perthnasol, yn arbennig Ymddiriedolaeth Cwrt Insole, i hybu adnewyddu Cwrt Insole a’r gerddi a hybu eu defnyddio’n llawn gan y gymuned.
• Trefnu gweithgareddau cymdeithasol, diwylliannol a dehongliadol i godi arian er lles Plas Cwrt Insole a’r Gerddi.
Yn 2011, ar ôl mwy na dau ddegawd o ymgyrchu a chydweithrediad daeth Ymddiriedolaeth Cwrt Insole i fod. Ei rôl fu dod â'r Cwrt o dan reolaeth y gymuned a sicrhau rôl o'r newydd a deinamig i’r goroesiad godidog yma o oes aur Caerdydd Fictoraidd fydd o fudd i lawer o genedlaethau i ddod.