Darparodd yr ardd furiog ffrwythau a llysiau ar gyfer preswylwyr tŷ’r Insole. Mewn perchnogaeth gyhoeddus, dirywiodd ei hangen a’r cynnal a chadw a daeth yn raddol fel anialwch mewn perygl o gael ei goresgyn gan sycamorwydd.
Oherwydd menter preswylydd lleol John Isaacs, achubwyd hi rhag dirywiad di-baid. Yn 2009, daeth grŵp o arddwyr gwydn at ei gilydd ar foreau Sadwrn. Gan gloddio a chlirio un gornel, gweithion nhw eu ffordd o gwmpas yr ardd. Ers hynny mae wedi cael ei defnyddio i dyfu ffrwythau ar sail gymunedol.
Mae'r Grŵp Garddio Cymunedol yn cynnal digwyddiadau codi arian i gefnogi ac ailddatblygu'r gerddi yn y Cwrt gan gynnwys Arwerthiant Planhigion Dewch a Phrynwch Blynyddol
Mae gan Grŵp Garddio Cwrt Insole tua 50 o aelodau sy'n cwrdd yn rheolaidd i gynnal sesiynau garddio yn yr ardd ac i gymdeithasu.
Os hoffech fod yn wirfoddolwr yn yr Ardd Gymunedol a chynorthwyo gyda thasgau rheolaidd yn yr ardd, ebostiwch Angela ar [email protected].