Blog
Heledd's 2(+) ingredient slow cooker fudge

Rhowch dun o laeth cyddwys (397g) a 500g o siocled yn y popty araf ar dymheredd isel.
Dwi'n defnyddio siocled rhad o'r archfarchnad, ond croeso i chi ddefnyddio eich ffefryn.
Put a tin of condensed milk (397g) and 500g of chocolate in the slow cooker on a low setting.
I use cheap supermarket chocolate, but you could choose your favourite.

Trowch y cynhwysion bob 15 munud am awr.
Fe fydd yn edrych yn erchyll ar adegau!
Stir the ingredients every 15 minutes for an hour.
It will look disgusting at times!

Ar ôl awr, ychwanegwch eich hoff bethau. Halen môr i fi -dwi'n ychwanegu un an hanner llwy de i'r cymysgedd.
Gallech defnyddio bron unrhywbeth yn dibynnu ar eich blas, neu amser y flwyddyn.
After an hour, add your favourite flavours. Mine is sea salt -I add a tea spoon and a half to the mix.
You could try anything, depending on your taste, or the season.

Dwi'n defnyddio mowld silicon gan ei fod yn hawdd ei gwaghau heb ddefnyddio papur neu ffoil.
Rhowch yr holl beth yn yr oergell am tua 3 awr (neu dros nos yn well).
I use a silicone mould as it's easy to empty without needing to use paper or foil.
Put your fudge in the fridge for around 3 hours (or overnight if possible).

A dyna ni!
Torrwch i'r siapiau chi moyn a mwynhewch!
And that's it!
Cut to the shapes that you want and enjoy!

Yn defnyddio bagiau neu jariau bach, mae'r cyffug yma yn gwneud anrheg gwych i rhywun am penblwydd, cymydog caredig neu hyd yn oed fel 'ffafr priodas'.
Using little gift bags or jars, this fudge makes great gifts to someone special for a birthday, for a friendly neighbour or even as wedding favours.
Os yw syniad gwneud hyn yn ormod i chi, byddwn i'n awgrymu archebu gan Fwdge.
Dyma'r cyffug wnaeth dechrau fy obsesiwn i, a'r rheswm chwiliais am ryseit yn y lle gynta.
If 'kitchen diy' really isn't your thing, I highly recommend Fwdge.This is the fudge that sparked my obsession, and the reason I searched for a result in the first place.