Cynnyrch Cartref a Chynnyrch Lleol
Dewch i gaffi’r Potting Shed, gyda’i seddi dan do ac awyr agored, lleoliad sy’n dathlu bwyd cartref maethlon da ac o darddiad moesegol. Mae ein bwydlen yn dymhorol ac yn syml, ac rydyn ni’n gwneud cymaint â phosibl yn ein cegin fechan gan gefnogi cyflenwyr moesegol lleol.
Lle bo hynny’n bosibl, rydyn ni’n darparu ar gyfer anoddefedd bwyd ac mae ein tîm cyfeillgar yn fwy na pharod i drafod gwybodaeth am alergeddau. Rydyn ni’n ystyriol o’n hamgylchedd; mae ailgylchu a chompostio yn rhan o’n trefniadau dyddiol.
Mae seddi dan do ar gael. Mae croeso i gŵn yn y caffi. Yn y caffi, mae’n RHAID cadw cŵn sy’n ymddwyn yn dda ar dennyn ac oddi ar y dodrefn. Rhaid cadw llygad arnyn nhw bob amser a’u hatal rhag mynd i ardal y gegin.
Yn anffodus, does dim modd archebu bwrdd ymlaen llaw.
Information
Event Catering
Catering can be provided for events booked at Insole Court; menus can be requested from: [email protected]
ymunwch â ni
Bydd eich cefnogaeth yn ein helpu i warchod Insole Court a sicrhau ei dyfodol fel lle i holl bobl Caerdydd. Felly, ymunwch â ni heddiw.
Mwy o wybodaethCwestiynau Cyffredin
Os nad oes ateb i’ch cwestiwn isod, anfonwch e-bost at [email protected]
Beicio
Beicio
mae rheseli beiciau ar gael ym mynedfa ddeheuol caffi’r Potting Shed ac yn y plasty o flaen Adain y Swistir
Trafnidiaeth Gyhoeddus
Trafnidiaeth Gyhoeddus
Ar y Bws Y bysiau agosaf sy’n gweithredu rhwng canol dinas Caerdydd a Chwrt Insole yw: 66 ( Bws Caerdydd ) Alight ar Fairwater Road yn Rookwood Close, cerddwch yn ôl 150m i giât y Gogledd. 25, 62 neu 63 (Bws Caerdydd) 122 neu 124 ( Stagecoach ) Mae’r arhosfan hon 550m o Borth y Gogledd ar Fairwater Rd. Disgynnwch yn Llandaf Black Lion, cerddwch i fyny’r allt at y goleuadau traffig, trowch i’r chwith i Fairwater Road, a dilynwch yr arwyddion brown.
Mae Cwrt Insole tua 25 munud ar fws o ganol dinas Caerdydd.
Gallwch gynllunio eich taith bws neu drên gan ddefnyddio gwefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0300 200 22 33.
Ar drên -yr orsaf agosaf yw gorsaf y Tyllgoed. Mae Cwrt Insole 500m o allanfa Heol y Tyllgoed. Mae’r gwasanaethau yn cael eu rhedeg gan Trafnidiaeth Cymru ar y llinell sy’n rhedeg trwy ganol y ddinas rhwng Coryton a Radur
Bwyta
Bwyta
mae caffi’r Potting Shed ar agor o 9-5 bob dydd ac mae’n gweini detholiad o brydau tymhorol o darddiad lleol yn ogystal â choffi, cacennau a danteithion o bob math. Mae meinciau picnic ar dir y plasty i chi fwyta’ch archebion bwyta allan yn ystod cyfnodau prysur.
Cerddwyr cŵn
Cerddwyr cŵn
mae croeso i gerddwyr cŵn ar draws y safle. Mae powlen ddŵr ar gael wrth y siop anrhegion, ac mae danteithion blasus i gŵn ar werth yno ac yn y plasty. Gofynnwn yn garedig i gŵn gael eu cadw ar dennyn cymaint â phosibl, ond yn enwedig ar y ffordd ogleddol ac yn y maes parcio er diogelwch.
Parcio
Parcio
mae maes parcio pwrpasol ar y safle ar sail y cyntaf i’r felin. Mae parcio am ddim, ond rydyn ni’n awgrymu cyfraniad o £3 i’r rhai sy’n gallu fforddio talu hynny. Mae cyfraniadau yn cael eu derbyn yn y siop anrhegion neu yng nghyntedd y plasty. Pan fydd y maes parcio yn llawn, gofynnwn i bobl ymatal rhag parcio mewn mannau heb eu dynodi ond yn hytrach i barcio oddi ar y safle ar y strydoedd cyfagos. Cofiwch barchu trigolion lleol wrth chwilio am le i barcio.
Hygyrchedd
Hygyrchedd
mae toiledau hygyrch i bobl anabl ar gael yn yr iard stablau a’r plasty. Lawrlwythwch fap o’r dudalen ‘Ymweld’ i weld llwybrau hygyrch yn y gerddi. Caniateir cŵn cymorth ym mhob adeilad. Mae parcio i bobl anabl ar gael i’r gogledd o’r siop anrhegion yn ein maes parcio.
Cyfleusterau newid
Cyfleusterau newid
mae cyfleusterau newid babanod ar gael yn y plasty ac mewn dau leoliad yn yr iard stablau.
Wi-Fi
Wi-Fi
mae codau Wi-Fi undydd ar gael o gaffi’r Potting Shed a’r siop anrhegion. Ymunwch â’r rhwydwaith ‘Insole Court Free Wi-Fi’ a mewnbynnwch eich cod.
Amrywiaeth, Cydraddoldeb a Chynhwysiant
Mae cydraddoldeb, amrywiaeth a hygyrchedd yn werthoedd sylfaenol i Ymddiriedolaeth Cwrt Insole.
Rydyn ni’n deall y gall rhwystrau sylweddol fodoli wrth gyrchu treftadaeth a diwylliant ac rydyn ni’n cymryd camau i sicrhau nad oes sefyllfa o’r fath yn codi yma yng Nghwrt Insole. Byddwn yn adlewyrchu hyn yn ein cynllunio busnes, cyfathrebu, ein gwaith allgymorth ac ymgysylltu, a’n gweithgareddau.
Mae Ymddiriedolaeth Cwrt Insole a’r is-gwmni, Insole Court Trading, yn gyflogwyr cyfle cyfartal, a byddwn yn ymdrechu i ddenu ymgeiswyr amrywiol ar bob lefel o’r sefydliad gan gynnwys staff, gwirfoddolwyr ac ymddiriedolwyr.
Bydd ymgeiswyr cymwys yn cael eu trin heb ystyried lliw, crefydd, rhywedd, hunaniaeth rhywedd na mynegiant, cyfeiriadedd rhywiol, tarddiad cenedlaethol, anabledd neu oedran.
Mae ein gwaith yn cael ei lywio gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 sy’n darparu’r fframwaith deddfwriaethol i gyflawni ein nodau o hyrwyddo cyfle cyfartal ac ymgysylltu â’n hymwelwyr.