Rhoi rhywbeth yn ôl i’r Gymuned

Mae sawl rheswm dros wirfoddoli, gan gynnwys rhoi rhywbeth yn ôl i’r gymuned, dysgu sgiliau newydd a meithrin gwybodaeth am hanes lleol. Gallwch wneud ffrindiau a theimlo’n rhan o deulu Cwrt Insole, cymryd rhan mewn heriau newydd a chael ymdeimlad o gyflawniad.
Drwy wneud cais i wirfoddoli yng Nghwrt Insole, mae’n siŵr eich bod chi’n rhannu ein hangerdd am dreftadaeth, gofod cymunedol a gerddi’r lleoliad.
Gobeithio y byddwch yn teimlo balchder o fod yn rhan o dîm brwdfrydig, ac yn mynd ymlaen i greu cyfeillgarwch cryf a pharhaol gyda gwirfoddolwyr ac aelodau eraill o’r staff.
Yn ogystal, gallwch ddisgwyl y buddion canlynol:

  • Digwyddiadau cymdeithasol a chip y tu ôl i’r llenni
  • Arbedion yn y siopau anrhegion
  • Cynllun gwobrwyo/rhoddion
  • Profiad gwaith ymarferol, lle bo hynny’n bosibl
  • Geirda swyddi perthnasol
  • Adolygiad/adborth ar gyfer cyrsiau Dug Caeredin, Bagloriaeth Cymru ac ati

Os ydych chi’n teimlo y gallech ein helpu, boed hynny’n rheolaidd neu ddim ond unwaith bob chwe mis, byddem wrth ein bodd yn eich croesawu i’r tîm.

Information

Volunteering Opportunities

To discuss our volunteering opportunities, please come and see us onsite or contact:

[email protected] or 029 21167920

Cyfleoedd i Gyfranogi

Mae llu o gyfleoedd cyffrous i’n gwirfoddolwyr fanteisio arnyn nhw:

Siop Anrhegion

Yn wythnosol neu bob pythefnos, 10am-1pm neu 1pm-4pm Mae helpu yn y siop anrhegion yn golygu ateb y ffôn, tywys ymwelwyr i’r rhan gywir o’r safle, dangos pobl o amgylch ein mannau llogi a gwerthu nwyddau yn ein siop. Cod gwisg: Taclus/anffurfiol

Gardd

Dydd Mercher 10am-1pm Mae gwirfoddolwyr garddio yn gweithio’n agos gyda Chyngor Caerdydd i gynnal ein gerddi i’r safonau uchaf, gan weithio ar sail prosiectau unigol. Cod gwisg: Dillad awyr agored, esgidiau cryf neu esgidiau ymarfer, menig garddio.

DIY

Boreau 10am-1pm Rydyn ni’n croesawu gwirfoddolwyr brwdfrydig i gynorthwyo gyda phrosiectau parhaus ar y safle. Does dim angen offer, dim ond agwedd ymarferol at drwsio a thacluso. Cod gwisg: Taclus/anffurfiol

Digwyddiadau

Ymunwch â ni ar gyfer digwyddiadau a phriodasau pan fydd y safle’n llawn pobl a chyffro. Cod gwisg: Taclus/anffurfiol, esgidiau call

Y tŷ

Yn wythnosol neu bob pythefnos, 10am-1pm neu 1pm-4pm Mae dyletswyddau’n cynnwys croesawu ymwelwyr i’r tŷ, eu cyfeirio at yr ystafelloedd ysblennydd sydd ar agor i’r cyhoedd a hwyluso’r arddangosfa ‘Mae’r Tŷ Hwn yn Llwyfan’. Cod gwisg: Taclus/anffurfiol

Llyfrau’r Bwtler

Unrhyw ddiwrnod, rhwng 10am a 4pm Mae ein siop lyfrau ail-law yn brosiect prysur, sydd wedi cael croeso mawr gan y cyhoedd. Mae’r dyletswyddau’n cynnwys didoli rhoddion, trefnu’r siop lyfrau a gwerthu llyfrau ar ddiwrnodau digwyddiadau. Cod gwisg: Taclus/anffurfiol

Priodasau

Yn y rôl hon, byddech yn cynorthwyo i sicrhau bod trefniadau’r diwrnod yn hwylus i’r cyplau, gan gynorthwyo gyda’r tasgau o addurno ystafelloedd, lletya a chynorthwyo o bryd i’w gilydd i weini diodydd. Cod gwisg: Taclus, gwisg ddu, esgidiau call

Gweinyddu a chyfieithu

Mae ein gwirfoddolwyr gweinyddol yn ein cynorthwyo gyda thasgau swyddfa. Gallai hyn gynnwys ffeilio, mewnbynnu data neu brawf-ddarllen. Lle bo’n bosibl, rydyn ni’n ceisio cynhyrchu ein deunydd marchnata yn Gymraeg ac yn Saesneg. Os ydych chi’n siaradwr Cymraeg rhugl gyda sgiliau ieithyddol da, ac yn falch o helpu yn lled-reolaidd, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych. Byddai modd gwneud gwaith cyfieithu ar y safle neu o’ch cartref.

Amrywiaeth, Cydraddoldeb a Chynhwysiant

Mae cydraddoldeb, amrywiaeth a hygyrchedd yn werthoedd sylfaenol i Ymddiriedolaeth Cwrt Insole.
Rydyn ni’n deall y gall rhwystrau sylweddol fodoli wrth gyrchu treftadaeth a diwylliant ac rydyn ni’n cymryd camau i sicrhau nad oes sefyllfa o’r fath yn codi yma yng Nghwrt Insole. Byddwn yn adlewyrchu hyn yn ein cynllunio busnes, cyfathrebu, ein gwaith allgymorth ac ymgysylltu, a’n gweithgareddau.
Mae Ymddiriedolaeth Cwrt Insole a’r is-gwmni, Insole Court Trading, yn gyflogwyr cyfle cyfartal, a byddwn yn ymdrechu i ddenu ymgeiswyr amrywiol ar bob lefel o’r sefydliad gan gynnwys staff, gwirfoddolwyr ac ymddiriedolwyr.
Bydd ymgeiswyr cymwys yn cael eu trin heb ystyried lliw, crefydd, rhywedd, hunaniaeth rhywedd na mynegiant, cyfeiriadedd rhywiol, tarddiad cenedlaethol, anabledd neu oedran.
Mae ein gwaith yn cael ei lywio gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 sy’n darparu’r fframwaith deddfwriaethol i gyflawni ein nodau o hyrwyddo cyfle cyfartal ac ymgysylltu â’n hymwelwyr.

ymunwch â ni

Bydd eich cefnogaeth yn ein helpu i warchod Insole Court a sicrhau ei dyfodol fel lle i holl bobl Caerdydd. Felly, ymunwch â ni heddiw.

Mwy o wybodaeth

Digwyddiadau Diweddaraf

Lorem ipsum dolor sit amet, consectetur adipiscing elit, sed do eiusmod tempor incididunt ut labore et dolore magna aliqua. Ut enim ad minim veniam, quis nostrud llamco.

View all
View all