Darganfod Cwrt Insole

Wedi’i leoli yn Llandaf, un o faestrefi gwyrdd Caerdydd, mae Cwrt Insole yn blasty rhestredig Gradd II* gyda hanes cyfoethog a rhaglen fywiog o ddigwyddiadau. Ar ôl gwaith adnewyddu helaeth, mae bellach yn cael ei redeg gan elusen gofrestredig, Ymddiriedolaeth Cwrt Insole. Mae mynediad i lawr gwaelod y plasty a’r gerddi yn rhad ac am ddim, er bod rhoddion yn cael eu croesawu’n ddiolchgar.
Ar lawr cyntaf y plasty, mae cyfle i ymwelwyr fwynhau arddangosfa dreftadaeth barhaol, “Mae’r Tŷ Hwn yn Llwyfan”. Mae’r ddrama sain hon yn dod â hanes lleol yn fyw, gan adrodd straeon ffyniant a chyni’r teulu Insole a’u cyfraniad i orffennol diwydiannol De Cymru. Mae mynediad yn rhad ac am ddim, ond rydyn ni’n awgrymu ac yn gwerthfawrogi rhodd o £5 i oedolion a £2.50 i’r rhai dan 16 oed.

Mae cyfleusterau llogi ystafell yn iard stablau Cwrt Insole ar gael bob dydd ar gyfer digwyddiadau cymunedol, busnes a phreifat. Mae caffi’r Potting Shed, gyda’i seddi dan do ac awyr agored, yn dathlu bwyd cartref maethlon da ac o darddiad moesegol.
Am ragor o wybodaeth am ein dosbarthiadau, gweithgareddau a digwyddiadau, ewch i’n tudalen Digwyddiadau.

Opening Hours

Potting Shed Cafe: 9am-5pm

Mansion House: 10am-4pm

Gift Shop: 10am-4pm

Gardens: Sunrise – Sunset

Cwestiynau Cyffredin

Os nad oes ateb i’ch cwestiwn isod, anfonwch e-bost at [email protected]

Beicio

mae rheseli beiciau ar gael ym mynedfa ddeheuol caffi’r Potting Shed ac yn y plasty o flaen Adain y Swistir

Trafnidiaeth Gyhoeddus

Ar fws – y bysiau agosaf sy’n rhedeg rhwng canol dinas Caerdydd a Chwrt Insole yw:
66 (Bws Caerdydd) – dewch oddi ar y bws ar Heol y Tyllgoed ger Rookwood Close, a cherddwch yn ôl 150m i Borth y Gogledd.
25, 62 neu 63 (Bws Caerdydd) a 122 neu 124 (Stagecoach) – mae’r safle bws 550m o Borth y Gogledd ar Heol y Tyllgoed. Dewch oddi ar y bws ger y Llew Du yn Llandaf, cerddwch i fyny’r rhiw at y goleuadau traffig, trowch i’r chwith i Heol y Tyllgoed, a dilynwch yr arwyddion brown.

Mae Cwrt Insole tua 25 munud ar fws o ganol dinas Caerdydd.
Gallwch gynllunio eich taith bws neu drên gan ddefnyddio gwefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0300 200 22 33.

Ar drên -yr orsaf agosaf yw gorsaf y Tyllgoed. Mae Cwrt Insole 500m o allanfa Heol y Tyllgoed. Mae’r gwasanaethau yn cael eu rhedeg gan Trafnidiaeth Cymru ar y llinell sy’n rhedeg trwy ganol y ddinas rhwng Coryton a Radur

Bwyta

Mae caffi’r Potting Shed ar agor o 9-5 bob dydd ac mae’n gweini detholiad o brydau tymhorol o darddiad lleol yn ogystal â choffi, cacennau a danteithion o bob math. Mae meinciau picnic ar dir y plasty i chi fwyta’ch archebion bwyta allan yn ystod cyfnodau prysur.

Cerddwyr cŵn

mae croeso i gerddwyr cŵn ar draws y safle. Mae powlen ddŵr ar gael wrth y siop anrhegion, ac mae danteithion blasus i gŵn ar werth yno ac yn y plasty. Gofynnwn yn garedig i gŵn gael eu cadw ar dennyn cymaint â phosibl, ond yn enwedig ar y ffordd ogleddol ac yn y maes parcio er diogelwch.

Parcio

mae maes parcio pwrpasol ar y safle ar sail y cyntaf i’r felin. Mae parcio am ddim, ond rydyn ni’n awgrymu cyfraniad o £3 i’r rhai sy’n gallu fforddio talu hynny. Mae cyfraniadau yn cael eu derbyn yn y siop anrhegion neu yng nghyntedd y plasty. Pan fydd y maes parcio yn llawn, gofynnwn i bobl ymatal rhag parcio mewn mannau heb eu dynodi ond yn hytrach i barcio oddi ar y safle ar y strydoedd cyfagos. Cofiwch barchu trigolion lleol wrth chwilio am le i barcio.

Hygyrchedd

mae toiledau hygyrch i bobl anabl ar gael yn yr iard stablau a’r plasty. Lawrlwythwch fap o’r dudalen ‘Ymweld’ i weld llwybrau hygyrch yn y gerddi. Caniateir cŵn cymorth ym mhob adeilad. Mae parcio i bobl anabl ar gael i’r gogledd o’r siop anrhegion yn ein maes parcio.

Cyfleusterau newid

mae cyfleusterau newid babanod ar gael yn y plasty ac mewn dau leoliad yn yr iard stablau.

Wi-Fi

mae codau Wi-Fi undydd ar gael o gaffi’r Potting Shed a’r siop anrhegion. Ymunwch â’r rhwydwaith ‘Insole Court Free Wi-Fi’ a mewnbynnwch eich cod.

ymunwch â ni

Bydd eich cefnogaeth yn ein helpu i warchod Insole Court a sicrhau ei dyfodol fel lle i holl bobl Caerdydd. Felly, ymunwch â ni heddiw.

Mwy o wybodaeth