Plasty rhestredig Gradd II
Er bod mynediad am ddim, derbynnir rhoddion dewisol gyda diolch.
Mae llawr gwaelod y tŷ ar agor i ymwelwyr, ac mae’r Ystafell Ddarllen, y Parlwr, yr Ystafell Fwyta, yr Ystafell Filiards, a Phantri’r Bwtler yn hygyrch i westeion. Sylwch fod rhai o’r ystafelloedd hyn ar gael i’w llogi ac mae’n bosib na fyddant ar gael i ymwelwyr cyffredin ar adegau penodol. Gallwch ein ffonio ar 029 2116 7920 cyn ymweld i wirio pa ystafelloedd sydd ar gael a pha ddyddiadau mae’r tŷ ar gau er mwyn osgoi siom.
Information
Opening Times
7 days a week, 10am-4pm (apart from a few exceptions)
Some rooms may be unavailable if hired out
Cau’r tŷTeithiau Tywys
If you would like to find out more about the Mansion, why not come on one of our guided tours?
Teithiau Tywysymunwch â ni
Bydd eich cefnogaeth yn ein helpu i warchod Insole Court a sicrhau ei dyfodol fel lle i holl bobl Caerdydd. Felly, ymunwch â ni heddiw.
Mwy o wybodaethAmrywiaeth, Cydraddoldeb a Chynhwysiant
Mae cydraddoldeb, amrywiaeth a hygyrchedd yn werthoedd sylfaenol i Ymddiriedolaeth Cwrt Insole.
Rydyn ni’n deall y gall rhwystrau sylweddol fodoli wrth gyrchu treftadaeth a diwylliant ac rydyn ni’n cymryd camau i sicrhau nad oes sefyllfa o’r fath yn codi yma yng Nghwrt Insole. Byddwn yn adlewyrchu hyn yn ein cynllunio busnes, cyfathrebu, ein gwaith allgymorth ac ymgysylltu, a’n gweithgareddau.
Mae Ymddiriedolaeth Cwrt Insole a’r is-gwmni, Insole Court Trading, yn gyflogwyr cyfle cyfartal, a byddwn yn ymdrechu i ddenu ymgeiswyr amrywiol ar bob lefel o’r sefydliad gan gynnwys staff, gwirfoddolwyr ac ymddiriedolwyr.
Bydd ymgeiswyr cymwys yn cael eu trin heb ystyried lliw, crefydd, rhywedd, hunaniaeth rhywedd na mynegiant, cyfeiriadedd rhywiol, tarddiad cenedlaethol, anabledd neu oedran.
Mae ein gwaith yn cael ei lywio gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 sy’n darparu’r fframwaith deddfwriaethol i gyflawni ein nodau o hyrwyddo cyfle cyfartal ac ymgysylltu â’n hymwelwyr.