Caffi’r Cwt Potio
Ar agor yn ddydddiol, 10am-4pm
Ymunwch â ni yng Ngaffi’r Cwt Potio, gyda seddi tu fewn a tu fas -ardal sydd yn dathlu bwyd cartre da a moesegol.
Ar hyn o bryd, rydym yn darparu gwasanaeth tecawê yn unig, gyda bwydlen cyfyngedig o fwyd a diod.
Mae ein bwydlen yn ffocysi ar gynnyrch tymhorol syml, ac rydym yn paratoi cymaint a phosib yn ein cegin fach ar y safle. Rydym hefyd yn cefnogi cyflenwyr lleol moesegol.
Ble’n bosib rydym yn darparu ar gyfer anoddefedd bwydydd ac mae ein tîm cyfeillgar yn fwy na hapus i drafod gwybodaeth alergedd gyda chi.
Rydym yn ystyriol iawn o’n hamgylchedd ac mae ailgylchu a chompostio yn digwydd yn ddyddiol.
Gallwn ddarparu bwyd ar gyfer unrhyw achlysur a drefnir yn Llys Insole, cysylltwch â [email protected] i gael bwydlenni.
Croesawir cŵn sydd yn ymddwyn yn dda yn ein clos, ond ddim o fewn yr adeilad.
Yn anffodus nid oes modd archebu bwrdd o flaen llaw.