Lle i Enaid gael Llonydd
Mae ein gerddi hardd wedi bod ar agor i bawb fel gardd gyhoeddus ers 1946. Maen nhw’n boblogaidd ar gyfer cerdded cŵn, mwynhau picnic neu fel lle i edmygu’r blodau. Mae mynediad am ddim ar gyfer cerddwyr, drwy Borth y Gogledd ar Heol y Tyllgoed (y brif fynedfa), Porth y De ar Vaughan Avenue a Phorth y Dwyrain ar Insole Gardens.
Os hoffech wirfoddoli yn ein gerddi, gallwch ymuno â’n sesiwn galw heibio fore Mercher 10am-1pm. I ymuno â ni a chael rhagor o wybodaeth am gyfleoedd gwirfoddoli, cliciwch yma.
Rydyn ni’n gweithio’n agos gyda Chyngor Caerdydd i gynnal ein gerddi i’r safonau uchaf. Ar hyn o bryd, mae ein gwirfoddolwyr garddio yn gweithio ar sail prosiectau unigol.
Information
Opening Times
Sunrise – Sunset 7 days a week
Tours
To find our more about the history of the garden, including fascinating facts about the exotic trees and plants, you can take one of our seasonal Garden Tours.
Dysgwch fwy ymaCwestiynau Cyffredin
Os nad oes ateb i’ch cwestiwn isod, anfonwch e-bost at [email protected]
Beicio
Beicio
mae rheseli beiciau ar gael ym mynedfa ddeheuol caffi’r Potting Shed ac yn y plasty o flaen Adain y Swistir
Trafnidiaeth Gyhoeddus
Trafnidiaeth Gyhoeddus
Ar fws – y bysiau agosaf sy’n rhedeg rhwng canol dinas Caerdydd a Chwrt Insole yw:
66 (Bws Caerdydd) – dewch oddi ar y bws ar Heol y Tyllgoed ger Rookwood Close, a cherddwch yn ôl 150m i Borth y Gogledd.
25, 62 neu 63 (Bws Caerdydd) a 122 neu 124 (Stagecoach) – mae’r safle bws 550m o Borth y Gogledd ar Heol y Tyllgoed. Dewch oddi ar y bws ger y Llew Du yn Llandaf, cerddwch i fyny’r rhiw at y goleuadau traffig, trowch i’r chwith i Heol y Tyllgoed, a dilynwch yr arwyddion brown.
Mae Cwrt Insole tua 25 munud ar fws o ganol dinas Caerdydd.
Gallwch gynllunio eich taith bws neu drên gan ddefnyddio gwefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0300 200 22 33.
Ar drên -yr orsaf agosaf yw gorsaf y Tyllgoed. Mae Cwrt Insole 500m o allanfa Heol y Tyllgoed. Mae’r gwasanaethau yn cael eu rhedeg gan Trafnidiaeth Cymru ar y llinell sy’n rhedeg trwy ganol y ddinas rhwng Coryton a Radur
Bwyta
Bwyta
Mae caffi’r Potting Shed ar agor o 9-5 bob dydd ac mae’n gweini detholiad o brydau tymhorol o darddiad lleol yn ogystal â choffi, cacennau a danteithion o bob math. Mae meinciau picnic ar dir y plasty i chi fwyta’ch archebion bwyta allan yn ystod cyfnodau prysur.
Cerddwyr cŵn
Cerddwyr cŵn
mae croeso i gerddwyr cŵn ar draws y safle. Mae powlen ddŵr ar gael wrth y siop anrhegion, ac mae danteithion blasus i gŵn ar werth yno ac yn y plasty. Gofynnwn yn garedig i gŵn gael eu cadw ar dennyn cymaint â phosibl, ond yn enwedig ar y ffordd ogleddol ac yn y maes parcio er diogelwch.
Parcio
Parcio
mae maes parcio pwrpasol ar y safle ar sail y cyntaf i’r felin. Mae parcio am ddim, ond rydyn ni’n awgrymu cyfraniad o £3 i’r rhai sy’n gallu fforddio talu hynny. Mae cyfraniadau yn cael eu derbyn yn y siop anrhegion neu yng nghyntedd y plasty. Pan fydd y maes parcio yn llawn, gofynnwn i bobl ymatal rhag parcio mewn mannau heb eu dynodi ond yn hytrach i barcio oddi ar y safle ar y strydoedd cyfagos. Cofiwch barchu trigolion lleol wrth chwilio am le i barcio.
Hygyrchedd
Hygyrchedd
mae toiledau hygyrch i bobl anabl ar gael yn yr iard stablau a’r plasty. Lawrlwythwch fap o’r dudalen ‘Ymweld’ i weld llwybrau hygyrch yn y gerddi. Caniateir cŵn cymorth ym mhob adeilad. Mae parcio i bobl anabl ar gael i’r gogledd o’r siop anrhegion yn ein maes parcio.
Cyfleusterau newid
Cyfleusterau newid
mae cyfleusterau newid babanod ar gael yn y plasty ac mewn dau leoliad yn yr iard stablau.
Wi-Fi
Wi-Fi
mae codau Wi-Fi undydd ar gael o gaffi’r Potting Shed a’r siop anrhegion. Ymunwch â’r rhwydwaith ‘Insole Court Free Wi-Fi’ a mewnbynnwch eich cod.
ymunwch â ni
Bydd eich cefnogaeth yn ein helpu i warchod Insole Court a sicrhau ei dyfodol fel lle i holl bobl Caerdydd. Felly, ymunwch â ni heddiw.
Mwy o wybodaeth