Lleoliad unigryw yn y Ddinas

Mae’r gwaith o adfer ac adnewyddu Cwrt Insole yn benllanw 30 mlynedd o ymgyrchu cymunedol. Ar ôl degawdau o ansicrwydd a dadfeilio, mae’r plasty a’r adeiladau allanol wedi ailagor i’r cyhoedd ac o fewn dim o dro wedi datblygu’n gaffaeliad pwysig i dirwedd ddiwylliannol Caerdydd.
Ers i’r safle ailagor yn 2016, mae Cwrt Insole wedi croesawu miloedd o ymwelwyr o bob rhan o’r ddinas a thu hwnt. Mae digwyddiadau cyhoeddus fel cyngherddau, dangosiadau ffilm, marchnadoedd dydd a theithiau treftadaeth wedi sicrhau bod y plasty a’r gerddi yn gyrchfan newydd i dwristiaid a thrigolion Caerdydd.
Mae’r gwasanaeth llogi ystafelloedd eithriadol yn cynnig cyfleusterau corfforaethol a chymunedol ar gyfer cwsmeriaid yr 21ain ganrif a hynny mewn lleoliad Fictoraidd unigryw.
Yn 2018, agorodd arddangosfa barhaol newydd i ymwelwyr ar y llawr cyntaf. Drama sain drochol yw ‘Mae’r Tŷ Hwn yn Llwyfan’, lle mae straeon yr ystafelloedd yn dod yn fyw drwy gymysgedd o dechnoleg a drama i adrodd hanes y teulu Insole, eu llwyddiannau a’u trychinebau.
Waeth a ydych chi’n ymweld â’n plasty trawiadol, yn crwydro’r gerddi godidog neu’n picio i gaffi hyfryd y Potting Shed, mae Cwrt Insole bellach yn atyniad gwerth chweil, mae’n ased cymunedol gwerthfawr ac yn enghraifft berffaith o adfywio wedi’i arwain gan dreftadaeth.

Information

Opening Times

Potting Shed Cafe: 9am-5pm

Mansion House: 10am-4pm

Gift Shop: 10am-4pm

Gardens: Sunrise – Sunset

Sat Nav Address

Insole Court
Fairwater Road,
Llandaff, Cardiff
CF5 2LN

Contact Details

Telephone: 029 21 167920
Email: [email protected]

ymunwch â ni

Bydd eich cefnogaeth yn ein helpu i warchod Insole Court a sicrhau ei dyfodol fel lle i holl bobl Caerdydd. Felly, ymunwch â ni heddiw.

Mwy o wybodaeth

Cwestiynau Cyffredin

Os nad oes ateb i’ch cwestiwn isod, anfonwch e-bost at [email protected]

Beicio

mae rheseli beiciau ar gael ym mynedfa ddeheuol caffi’r Potting Shed ac yn y plasty o flaen Adain y Swistir

Trafnidiaeth Gyhoeddus

Ar fws – y bysiau agosaf sy’n rhedeg rhwng canol dinas Caerdydd a Chwrt Insole yw:
66 (Bws Caerdydd) – dewch oddi ar y bws ar Heol y Tyllgoed ger Rookwood Close, a cherddwch yn ôl 150m i Borth y Gogledd.
25, 62 neu 63 (Bws Caerdydd) a 122 neu 124 (Stagecoach) – mae’r safle bws 550m o Borth y Gogledd ar Heol y Tyllgoed. Dewch oddi ar y bws ger y Llew Du yn Llandaf, cerddwch i fyny’r rhiw at y goleuadau traffig, trowch i’r chwith i Heol y Tyllgoed, a dilynwch yr arwyddion brown.

Mae Cwrt Insole tua 25 munud ar fws o ganol dinas Caerdydd.
Gallwch gynllunio eich taith bws neu drên gan ddefnyddio gwefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0300 200 22 33.

Ar drên -yr orsaf agosaf yw gorsaf y Tyllgoed. Mae Cwrt Insole 500m o allanfa Heol y Tyllgoed. Mae’r gwasanaethau yn cael eu rhedeg gan Trafnidiaeth Cymru ar y llinell sy’n rhedeg trwy ganol y ddinas rhwng Coryton a Radur

Bwyta

Mae caffi’r Potting Shed ar agor o 9-5 bob dydd ac mae’n gweini detholiad o brydau tymhorol o darddiad lleol yn ogystal â choffi, cacennau a danteithion o bob math. Mae meinciau picnic ar dir y plasty i chi fwyta’ch archebion bwyta allan yn ystod cyfnodau prysur.

Cerddwyr cŵn

mae croeso i gerddwyr cŵn ar draws y safle. Mae powlen ddŵr ar gael wrth y siop anrhegion, ac mae danteithion blasus i gŵn ar werth yno ac yn y plasty. Gofynnwn yn garedig i gŵn gael eu cadw ar dennyn cymaint â phosibl, ond yn enwedig ar y ffordd ogleddol ac yn y maes parcio er diogelwch.

Parcio

mae maes parcio pwrpasol ar y safle ar sail y cyntaf i’r felin. Mae parcio am ddim, ond rydyn ni’n awgrymu cyfraniad o £3 i’r rhai sy’n gallu fforddio talu hynny. Mae cyfraniadau yn cael eu derbyn yn y siop anrhegion neu yng nghyntedd y plasty. Pan fydd y maes parcio yn llawn, gofynnwn i bobl ymatal rhag parcio mewn mannau heb eu dynodi ond yn hytrach i barcio oddi ar y safle ar y strydoedd cyfagos. Cofiwch barchu trigolion lleol wrth chwilio am le i barcio.

Hygyrchedd

mae toiledau hygyrch i bobl anabl ar gael yn yr iard stablau a’r plasty. Lawrlwythwch fap o’r dudalen ‘Ymweld’ i weld llwybrau hygyrch yn y gerddi. Caniateir cŵn cymorth ym mhob adeilad. Mae parcio i bobl anabl ar gael i’r gogledd o’r siop anrhegion yn ein maes parcio.

Cyfleusterau newid

mae cyfleusterau newid babanod ar gael yn y plasty ac mewn dau leoliad yn yr iard stablau.

Wi-Fi

mae codau Wi-Fi undydd ar gael o gaffi’r Potting Shed a’r siop anrhegion. Ymunwch â’r rhwydwaith ‘Insole Court Free Wi-Fi’ a mewnbynnwch eich cod.

Amrywiaeth, Cydraddoldeb a Chynhwysiant

Mae cydraddoldeb, amrywiaeth a hygyrchedd yn werthoedd sylfaenol i Ymddiriedolaeth Cwrt Insole.
Rydyn ni’n deall y gall rhwystrau sylweddol fodoli wrth gyrchu treftadaeth a diwylliant ac rydyn ni’n cymryd camau i sicrhau nad oes sefyllfa o’r fath yn codi yma yng Nghwrt Insole. Byddwn yn adlewyrchu hyn yn ein cynllunio busnes, cyfathrebu, ein gwaith allgymorth ac ymgysylltu, a’n gweithgareddau.
Mae Ymddiriedolaeth Cwrt Insole a’r is-gwmni, Insole Court Trading, yn gyflogwyr cyfle cyfartal, a byddwn yn ymdrechu i ddenu ymgeiswyr amrywiol ar bob lefel o’r sefydliad gan gynnwys staff, gwirfoddolwyr ac ymddiriedolwyr.
Bydd ymgeiswyr cymwys yn cael eu trin heb ystyried lliw, crefydd, rhywedd, hunaniaeth rhywedd na mynegiant, cyfeiriadedd rhywiol, tarddiad cenedlaethol, anabledd neu oedran.
Mae ein gwaith yn cael ei lywio gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 sy’n darparu’r fframwaith deddfwriaethol i gyflawni ein nodau o hyrwyddo cyfle cyfartal ac ymgysylltu â’n hymwelwyr.